Eich Cynghorwyr
Mae Cyngor Tref Maesteg yn cynnwys dau ar bymtheg o Gynghorwyr sy’n cynrychioli pedair adran etholiadol neu Wardiau: Caerau (4), Dwyrain Maesteg(5), Gorllewin Maesteg (5) a Nantyffyllon (3). I weld manylion Cynghorwyr ar gyfer pob Ward, gallwch glicio ar eich Ward neu ddefnyddio’r is-dudalennau yn y tab hwn.
Yn ogystal â’r Cyngor Llawn, mae nifer o Is-bwyllgorau eraill y Cyngor sy’n cynnwys y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Adfywio, y Pwyllgor Hawliau Tramwy, y Pwyllgor Gŵyl a Digwyddiadau, y Pwyllgor Eiddo, y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Gwefan a’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch.
Yn ogystal, mae gan nifer o’n Cynghorwyr statws cynrychiolwyr ar nifer o sefydliadau ym Maesteg gan gynnwys Grŵp Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Grŵp Gofal Afonydd Cwm Llynfi. Rydym hefyd yn penodi Cynghorwyr fel Llywodraethwyr mewn ysgolion cynradd lleol.
Côd Ymddygiad a Rheolau Sefydlog Cyngor Tref Maesteg
Cynllun Hyfforddi Cyngor Tref Maesteg
- One Voice Wales Overview of Members Training
- Councillor Training Record – Sylwch mai dogfen waith yw hon a chaiff ei diweddaru wrth i Gynghorwyr gwblhau modiwlau