-

Mae gan Faesteg nifer o ‘hawliadau i enwogrwydd’.

Perfformiwyd Hen Wlad Fy Nhadau yn gyhoeddus am y tro cyntaf yng Nghapel Tabor gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ar 1af Mawrth, 1856. Wedi’i gyfansoddi gan James James a’i dad, Evan James, o Bontypridd, fe’i canwyd gan Elizabeth John, 16 oed – hefyd o Bontypridd – fel rhan o gyngerdd Dydd Gŵyl Dewi dan ei theitl gwreiddiol, ‘Glan Rhondda’.

Ar wahân i repertoire corawl a cherddorol cryf Maesteg, mae’r mynyddoedd cyfagos yn talu teyrnged i orffennol hanesyddol y dyffryn, o dwmpathau claddu cynnar a gwrthgloddiau gwersyll Rhufeinig i’r arwyddion olaf sy’n weddill o’r diwydiant mwyngloddio haearn a fu unwaith yn fawr a phwerus a gynhaliodd bobl y dyffryn.

Gerllaw ym mhentref hanesyddol Llangynwyd mae’r eglwys hynafol a Thafarn yr Hen Dŷ, sy’n dyddio’n ôl i’r flwyddyn 1147. Dywedir mai Wil Hopkin a ysgrifennodd y gân ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ yn y dafarn hon ac yma, gallwch weld traddodiad enwog ‘Mari Llwyd’ Nos Galan o hyd. Mae’r Hen Dŷ, ynghyd â thafarn y Corner House (cartref Wil Hopkin) ill dau yn rhan o chwedl The Maid of Cefn Ydfa.