Wrth i Noson Tân Gwyllt a Diwrnod y Cofio nesáu, hoffwn eich gwneud yn ymwybodol o’r pecyn cymorth newydd i helpu’r rhai sy’n bwriadu trefnu digwyddiadau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r pecyn cymorth, sydd i’w weld ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn darparu chwe cham hawdd eu dilyn i drefnwyr a dyma’r siop un stop ar gyfer yr holl ddolenni a gwybodaeth sy’n berthnasol i gynllunio digwyddiadau.
Mae hefyd yn atgoffa trefnwyr i ymgysylltu’n gynnar â’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (ESAG) ac yn enwedig cyn mynd i gostau neu hyrwyddo digwyddiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn dilyn yr achosion o Covid-19.
Mae ESAG yn rhoi cyngor ac arweiniad i drefnwyr ar agweddau sy’n ymwneud â diogelwch a rheoleiddio ar ddigwyddiadau cyhoeddus a gynllunnir.
Dylid darparu cynlluniau digwyddiadau llawn o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn cyfarfod os ydynt i’w cynnwys ar yr agenda i’w trafod. Cynhelir cyfarfodydd ar y trydydd dydd Mercher o bob mis, a’r cyfarfod nesaf ar yr 20fed o Hydref. Dylid cyflwyno ffurflen hysbysu digwyddiad gychwynnol cyn gynted ag y bydd cynllunio digwyddiad yn dechrau, yn aml sawl mis cyn y digwyddiad.
Rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau y gallech fod yn eu cynllunio yn ystod y misoedd nesaf.