-
Nrw Fly Tipping Posters 1v2 738x1024

Os ydych chi’n talu rhywun i fynd â’ch sbwriel cartref neu eitemau diangen i ffwrdd, rhaid i chi wirio eu bod yn gludwr gwastraff cofrestredig. Os na wnewch chi gallwch nawr gael dirwy o £300 neu dderbyn dirwy ddiderfyn os cewch eich erlyn.

Er mwyn bodloni eich gofynion cyfreithiol fel deiliad tŷ, rhaid i chi:

  1. Gwiriwch gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a yw’r person neu’r cwmni yr ydych yn ei ddefnyddio wedi’i gofrestru. Gallwch wneud hyn ar-lein yn naturalresources.wales/checkwaste neu drwy ffonio 03000 653000 (ar agor 9am – 5pm yn ystod yr wythnos, codir y gyfradd genedlaethol).
  2. Gofynnwch i ble mae eich gwastraff yn mynd.

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn:

  • Cofnodwch unrhyw wiriadau a wnewch, gan gynnwys enw a rhif cofrestru’r gweithredwr.
  • Cadwch dderbynneb sy’n cynnwys disgrifiad o’r gwastraff a’r cwmni a ddefnyddiwyd.
  • Cofnodi manylion y busnes neu gerbyd (cofrestriad, gwneuthuriad, model, lliw)

Ewch i dutyofcare.wales am ragor o wybodaeth.