Mae Age Cymru wedi lansio gwasanaeth gwrando ffôn newydd sbon dan arweiniad gwirfoddolwyr o’r enw Listen and Connect.
Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl hŷn a all fod yn profi teimladau o unigrwydd ac unigedd. Mae gwirfoddolwyr yn darparu man diogel lle gwrandewir ar bobl a’u cefnogi i archwilio’r materion sy’n bwysig iddynt.
mae llinellau ffôn ar agor rhwng 11am a 3pm yn ystod mis Mehefin. Ar ôl mis Mehefin, byddant ar agor 10am – 4pm.
Os hoffai rhywun wirfoddoli, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 07425 422 683.
Os hoffai rhywun drafod y prosiect ymhellach, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 07425 380 301